Clera Heddiw

Offerynnau

Y Glerorfa

Dolenni

Digwyddiadau

Ymaelodi a Chofrestru

Telynor Cymru

Alawon i'w Chwarae

Gweithdai a sesiynau

Tŷ Gwerin

Siopa

Dolenni

Y Degawd Cyntaf

Archif

 

 

 


Y DEGAWD CYNTAF

Stephen Rees

Ym mis Medi 1994 cafodd Stephen Rees wahoddiad gan y cynhyrchydd-gyfarwyddwr Gwyndaf Roberts – a oedd hefyd yn aelod o Ar Log – i gyflwyno eitem ar y rhaglen Dim Ond Celf ar S4C. Y pwnc oedd yr adfywiad gwerin sylweddol yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, a chyfraniad pwysig y mudiad Folkworks yn hyn o beth. Aeth i Newcastle i gyfweld Alistair Anderson (cyfarwyddwr Folkworks) a’r pibydd enwog Kathryn Tickell, ac hefyd i Ŵyl Rothbury er mwyn ffilmio gweithdy a chystadleuaeth bibau Northumbria.

Cafodd yr ymweliad gryn argraff arno, ac ar ôl dychwelyd i Gymru, rhannodd ei frwdfrydedd gyda Wyn Thomas, cydweithiwr yn Adran Gerdd Prifysgol Cymru Bangor. Soniais wrtho am lwyddiant Folkworks, gan ddangos taflenni ar gyfer eu gweithdai undydd a enwyd yn ‘Workouts’. Roedd nifer o’r rhain yn canolbwyntio ar y traddodiad offerynnol, pwyslais oedd yn gymharol brin yng Nghymru ar y pryd.

Yn dilyn eu sgwrs, aeth Wyn Thomas ati i drefnu’r ‘Gweithdy Gwerin’ cyntaf ym mis Ebrill 1995, gyda nawdd gan Adran Ddysgu Gydol Oes PCB. Tiwtoriaid y gweithdy cyntaf oedd Robin Huw Bowen (telyn deires), Andy McLauchlin (ffliwt/chwiban), Stephen Rees a Huw Roberts (ffidil) a Llio Rhydderch (telyn bedal).

Siân Phillips a'i dosbarth ffidil yng
Ngweithdy Aberystwyth, 1997
.
Dros y flwyddyn ganlynol, fe gynhaliwyd nifer o gyfarfodydd i drafod y posibiliad o sefydlu mudiad cenedlaethol i hybu’r traddodiad offerynnol. Fe drefnwyd gweithdy gwerin arall yn y Bontfaen yng Ngwanwyn 1996, ac fe lansiwyd y Gymdeithas yn swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo fis Awst 1996.

Yn ogystal â’r tiwtoriaid, gweithiodd sawl un arall yn galed iawn i sicrhau llwyddiant y blynyddoedd cynnar: Wyn Thomas, trefnydd y gweithdai cynnar ac ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas; y delynores Elonwy Wright (cynrychiolydd yn y de-ddwyrain); a llywydd y Gymdeithas, y ddiweddar Frances Môn Jones, a gefnogodd y gymdeithas yn frwd ar bwyllgor Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.

Prif waith COTC – Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru – o'r dechrau oedd trefnu Gweithdai mewn gwahanol rannau o'r wlad i gynyddu'r diddordeb ac i gynnig hyfforddiant gan chwaraewyr profiadol.

Ym mis Gorffennaf 2003 etholwyd Arfon Gwilym yn Ysgrifennydd, i olynu Stephen Rees. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, penderfynwyd ar enw haws ei ynganu na COTC, sef Clera; cytunwyd ar Gyfansoddiad newydd a dyluniwyd logo newydd.

Yn 2006 roedd y gymdeithas yn dathlu ei phenblwydd yn 10 oed. Penderfynwyd cynnal cyngerdd yn y Galeri, Caernarfon, i roi llwyfan i'r doniau a gafodd eu meithrin ar hyd y blynyddoedd. Daeth 40 o gerddorion gwerin ynghyd i ffurfio 'Clerorfa' – cerddorfa werin gyntaf Cymru a chafwyd ymateb brwd o bob cyfeiriad i'r noson (a oedd hefyd yn cynnwys canu a dawnsio).

English >>>>

 

anfonwch e-bost yma
CLERA HEDDIW | Y DEGAWD CYNTAF | Y DELYN | Y CRWTH | Y FFIDIL | Y PIBGORN | Y PIBAU |
CYNGERDD Y GALERI | DOLENNI | DIGWYDDIADAU | NEWYDDION | YMAELODI A CHOFRESTRU
Safle gan Mercwri