Ffurfiwyd y Glerorfa i ddathlu deng mlwyddiant sefydlu Clera yn Nhachwedd 2006.
Y nod yw cyflwyno alawon traddodiadol Cymru new dull newydd a bywiog ac i hybu’r brwdfrydedd dros ddiwylliant cerddorol Cymreig yng Nghymru a thu hwnt.
Cerddorfa werin yw’r Glerorfa ac yn wahanol iawn i gerddorfeydd arferol does dim arweinydd ac mae’r alawon ar gôf y chwaraewyr. Yr offerynnau a glywch fydd ffidlau, telynau, ffliwtiau ac ambell sachbib neu bibgorn. Mae’r aelodau yn dod o bob cwr o Gymru ac mae ystod oedran a phrofiad perfformio eang iawn. Mae doniau dawnsio a chanu yn y Glerorfa hefyd ac yn aml bydd y rhain yn cael eu harddangos yn ein perfformiadau ar lwyfan.
Mae gan y Glerorfa ddau gyfarwyddwr cerdd, sef y telynor Robin Huw Bowen a’r ffidlwraig Gwenno Roberts. Mae Robin wedi bod yn un o gyfarwyddwyr artistig y Glerorfa ers ei sefydlu, a'r llynnedd croesawon Gwenno, sydd wedi bod yn ymwneud gyda Clera ers yn ifanc iawn, yn gyd-gyfarwyddwr newydd.
Rydym yn agored i aelodau newydd o bob offeryn – does dim clyweliadau, ond mae gofyn bod y gallu gennych i chwarae’r alawon gwerin ar eich côf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Glerorfa, neu os hoffech ein gwahodd i gynnal noson yn eich ardal cysylltwch â’r trefnydd Siwan Evans
siwan123@btinternet.com
Perfformiadau dros y blynyddoedd diwethaf
Am fwy o wybodaeth am berfformiadau'r Glerorfa, dilynwch y dolenni.
Cyngerdd Hydref, Neuadd Ogwen, Bethesda (Hydref 2015)
Cyngerdd awyr agored Plas Glyn-y-weddw, Llanbedrog ger Pwllheli (Gorffennaf 2015)
Cyngerdd Harlech y Glerorfa (Gorffennaf 2015)
Tŷ Siamas, Dolgellau (Ionawr 2015)
Gŵyl Rhuthun (Gorffennaf 2014)
Tŷ Siamas, Dolgellau (Chwefror 2014)
Neuadd Dwyfor, Pwllheli (Awst 2013)
Gŵyl Tegeingl (Awst 2012)
Canolfan Ucheldre, Caergybi (Hydref 2011)
Theatr y Ddraig, Abermaw (Medi 2011)
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (Tachwedd 2010)
Canolfan Ucheldre, Caergybi (Awst 2010)
Gŵyl Rhuthun (Gorffennaf 2010)
Gŵyl Tegeingl (Awst 2010)
Gŵyl Rhuthun (Gorffennaf 2010)
Theatr Donald Gordon, Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd (Mai 2010)
Cyngerdd Pafiliwn Rhyl (Mawrth 2010)
Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant, Bangor (Hydref 2009)
Cyngerdd Agoriadol Eitseddfod Genedlaethol Y Bala (Gorffennaf 2009)
Y Galeri, Caernarfon - recordio CD Y Glerorfa - yn fyw (Ebrill 2009)
Llwyfan Glanfa, Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd (Mawrth 2009)
Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Llanelwy (Medi 2008)
Festival Interceltique Lorient (Awst 2008)
Sesiwn Fawr Dolgellau (Gorffennaf 2008)
Cyngerdd Galeri (Tachwedd 2006)