Beth yw ystyr 'Clera'?
Nid acronym yw'r gair! 'Clerwyr' oedd yr hen air am y bobl hynny, yn
gerddorion a beirdd proffesiynol, oedd yn crwydro'r wlad yn ymarfer eu
crefft. Y gair am eu proffesiwn oedd 'clera'.
Swyddogion a Phwyllgor Gwaith 2022/2023:
Cadeirydd: Geraint Roberts
Is-gadeirydd: Siwan Evans
Trysorydd: Steve Jeans
Ysgrifennydd: Carwyn Tywyn
Ysgrifennydd Aelodaeth: Meurig Williams
Cynorthwy-wyr: Teri Duffy, Keith Floyd,
Gallwch lawrlwytho copi o gyfansoddiad Clera yma.
Gallwch lawrlwytho copi o bolisi preifatiaeth Clera yma.
Gweithdai, Clybiau Alawon a Sesiynau
Mae Clera yn trefnu a hyrwyddo gweithdai, clybiau alawon a sesiynau ar draws Gymru.
Cynllun Sesiwn dros Gymru
Cafwyd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i helpu redeg prosiect Sesiwn dros Gymru, a thrwy hwn trefnwyd ystod eang o weithdai, dosbarthiadau a sesiynau ar draws y wlad o Fawrth 1af 2012 i Fawrth 1af 2013.
Ceir fanylion ar www.sesiwn.com
Alawon Cymru
Bu ragor o weithdai a dosbarthiadau yn rhedeg o Fai 2013 hyd Fehefin 2014 dan gynllun Alawon Cymru,
eto gyda chefnogaeth Cymgor Celfyddydau Cymru. Roedd y cynllun yma yn
hyrwyddo a chefnogi Clybiau Alawon ac heddiw mae nifer o Glybiau Alawon
yn rhedeg dros y wlad.
Ceir y wybodaeth diweddaraf ar www.sesiwn.com/clwbalaw.html.
Telynor Cymru
Gorffennodd Telynor Cymru
yn 2015, eto gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gyda gweithdau
dysgu alawon telyn y Sipsiwn ledled y wlad. Ceir casgliad gwych o'r
alawon Sipsi ac arweiniad i'w chwarae ar wefan www.telynor.cymru
Llyfr Alawon Sesiwn
Yn ogystal â sefydlu clybiau alawon newydd ar draws Gymru, cynhyrchom y llyfr Alawon Sesiwn, casgliad o 81 alaw wedi'u cyflwyno mewn setiau sesiwn a hefyd gwefan www.alawoncymru.com
Llyfr Alawon Sesiwn 2
Cynhyrchomllyfr Alawon Sesiwn 2, casgliad o 74 alaw wedi'u cyflwyno mewn 27 set sesiwn; maent hefyd ar ein gwefan www.alawoncymru.com, yn ffeiliau sain a nodiant. Ychwanegir set newydd o alawon bob mis.
Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Cawsom Eisteddfod lwyddiannus eto yn 2018 a byddwn yn rhedeg sesiynau a dosbarthiadau yn Tŷ Gwerin ac o dro i dro o gwmpas y maes Eisteddfod Llanrwst, Sir Conwy 2019 o Awst 3-10, fel yr ydym yn gwneud bob blwyddyn. Gweler www.sesiwn.com am y manylion diweddaraf.
Sesiynau
Dyma rai Sesiynau anffurfiol y mae croeso i bawb ymuno â nhw:
Sesiwn Bangor
Tafarn y Glôb, Stryd Albert, BANGOR, Gwynedd LL57 2EY:
nos Lun cyntaf a thrydydd bob mis.
Sesiwn Maentwrog
Tafarn y Grapes, Maentwrog LL41 4HN:
2il nos Fercher y mis
Sesiwn Ioan Rhagfyr
Tŷ Siamas, Dolgellau LL40 1RD:
3ydd nos Fercher y mis
Sesiwn yr Wyddgrug
Bar gwin y Delyn, Yr Wyddgrug CH7 1LA:
nos Fercher cyntaf y mis
Sesiwn Caerdydd
bob nos Lun, yn Nhafarn y Farchnad yng nghanol y Ddinas, Caerdydd CF10 1BH
Rhagor o sesiynau a manylion pellach ar www.sesiwn.com
Clybiau Alawon
Cewch holl fanylion y clybiau alawon sydd yn rhedeg dros Gymru ac ar y Ffin ar wefan www.sesiwn.com
Casgliad o alawon sesiwn ar-lein
Gallwch wrando a gweld nodau casgliad o alawon traddodiadol y gallwch eu lawrlwytho ar wefan Alawon Cymru
Lluniau:
Gweithdai Clera a sesiynau mewn gwahanol rhannau'r wlad.
English >>>>