Clera Heddiw

Offerynnau

Y Glerorfa

Digwyddiadau

Ymaelodi a Chofrestru

Telynor Cymru

Alawon i'w Chwarae

Gweithdai a sesiynau

Tŷ Gwerin

Siopa

Dolenni

Y Degawd Cyntaf

Archif

 

 

 


Y FFIDIL

Adolphus a Cornelius Wood gyda ffidlau wedi eu gwneud o flychau siocled pren

Credir mai yn ystod yr 17eg ganrif y cyrhaeddodd y ffidil i Gymru gyntaf – gyda'r sipsi Abram Wood yn ôl un traddodiad. Yn sgil yr offeryn newydd fe ddaeth math newydd o gerddoriaeth hefyd, o Loegr ac o gyfandir Ewrop – newid a olygodd doriad pendant yn y pen draw gyda'r hen gerddoriaeth frodorol, ganol oesol ei naws. Roedd yr offeryn newydd yn ysgafnach, yn fwy hyblyg, ac yn ddelfrydol ar gyfer dawnsio.

Ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sydd ar gael am ffidlwyr yr 17eg ganrif. Yn ei lyfryn Famous Fiddlers, nid yw'r Parch W. Meredith Morris yn medru enwi ond un, sef Gruffydd ap Rhydderch o Coity ger Penybont-ar-Ogwr. Mae'r Sais J.Verdon, wrth ddisgrifio taith drwy Ynys Môn ym 1699, yn tystio iddo weld dau ffidlwr yn cyfeilio i ddawnsio o amgylch y Pawl Haf.

Yn ôl un o Forysiaid Môn, William Morris, roedd hi'n arferiad ym Môn tua chanol y 18fed ganrif i orymdeithio i'r eglwys ar gyfer gwasanaeth priodas i gyfeiliant telynau a ffidlau. Mae un arall o'r Morysiaid, Gwilym Morris, yn enwi dau ffidlwr o Fôn tua 1758: Siôn Olifer a Wil Bedward. Roedd o leiaf dau o'r brodyr Morris wedi meistroli'r offeryn eu hunain. Yn un o'i lythyrau, meddai William: "Mi dawaf am heno ac af i ganu ceinciau ar fy ffidil ffôl. Dyma fy nifyrrwch yn fynych ddarn o'r nosweithiau...." Ei hoff alaw Gymreig oedd alaw o'r enw Ys Wyt Risiart (neu Sweet Richard).

Ffidlwr Cymreig – anhysbys

Tua'r un cyfnod mae sgweier Brynddu, Llanfechell, William Bulkeley, yn disgrifio yn ei ddyddiadur sut yr arferai logi telynorion a ffidlwyr yn ei gartref dros wyliau'r Nadolig a'r Calan. Enw un o'r ffidlwyr hyn oedd Wil Wyllt. Talwyd dau swllt iddo am ei wasanaeth yn Ionawr 1755.

Yn y ddeunawfed ganrif, gwyddom am ddau ffidlwr oedd hefyd yn gasglwyr: John Thomas ( o Ogledd- Ddwyrain Cymru yn rhywle, fe gredir) a Morris Edwards (o Fôn). Yn nghasgliad John Thomas o tua 1752 fe geir 400 o wahanol alawon (nid i gyd yn rhai Cymreig o bell ffordd) ac yng nghasgliad Morris Edwards (o tua 1778) 175 o alawon: prawf o boblogrwydd y ffidil yn y cyfnod hwn. Ceir mwy nag un disgrifiad o'r ffidil yn cyfeilio i ddawnsio – ar adeg Calan Mai a dathliadau'r Fedwen Haf, er enghraifft.

Yn ôl y Parch. Meredith Morris, roedd wyth o ffidlwyr yn bresennol mewn ffair yn Yerbeston yn Ne Ddwyrain Sir Benfro ym 1850, yn eu plith Aby Biddle o ardal Dinbych y Pysgod a fyddai'n treulio ei hafau i gyd yn crwydro ffeiriau a phriodasau a phob math o achlysuron yn Ne Cymru. Sonia hefyd am ffidlwr o'r enw Ianto'r Garth o ardal Tir Iarll ym Morgannwg, a fu farw ym 1828 – ffidlwr a oedd hefyd yn faledwr. Ymhlith eraill mae'n enwi John Roberts o'r Drenewydd (a fu farw ym 1875) – o deulu'r sipsiwn o bosib; Crythor Cerdin (Thomas Jones) o ardal Llangynwyd, Morgannwg, a'r baledwr Lefi Gibbon o Gwmfelin Mynach, Sir Gaerfyrddin.

Dan Morris

Jeff Hughes

I'r sipsiwn Cymreig y mae'r diolch pennaf am gynnal traddodiad y ffidil werin yng Nghymru hyd at y rhyfel byd cyntaf – gan ddylanwadu ar rai fel Telynores Maldwyn, Nansi Richards ymhlith eraill. Byddent yn gwneud eu ffidlau eu hunain – allan o hen focsus pren!

Erbyn hyn, y ffidil yw'r offeryn gwerin mwyaf poblogaidd o ddigon yng Nghymru – fel yn yn y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin.

English >>>>

 

anfonwch e-bost yma
CLERA HEDDIW | Y DEGAWD CYNTAF | Y DELYN | Y CRWTH | Y FFIDIL | Y PIBGORN | Y PIBAU |
CYNGERDD Y GALERI | DOLENNI | DIGWYDDIADAU | NEWYDDION | YMAELODI A CHOFRESTRU
Safle gan Mercwri