|
Llun: Crwth y Foelas a welir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru |
Hyd at y cyfnod diweddar credwyd nad oedd neb wedi chwarae crwth yng Nghymru ers tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ond mae ymchwil gan Stephen Jones in awgrymu bod yr offeryn yn dal i gael ei chwarae mewn rhai ardaloedd tan ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Credir mai offeryn yn perthyn i Ogledd Ewrop oedd yn wreiddiol. Yn Sgandinafia roedd offeryn o'r enw talharpa (sy'n dal i gael ei chwarae yn Estonia heddiw) a'r jouhikko yn y Ffindir. Roedd offeryn yn Lloegr o'r enw crowd neu crowth . Mae unrhyw un gyda chyfenwau fel Crowther a Crowder heddiw yn ddisgynyddion i'r hen grythorion!
Roedd chwe thant yn perthyn i'r crwth Cymreig: pedwar uwchlaw'r byseddfwrdd i'w chwarae gyda'r bwa, a dau yn gogwyddo tua'r chwith, i'w tynnu gyda'r bawd. Roedd gan bob un o'r tannau enw: llorfdant, byrdwn y llorfdant, crasdant, byrdwn y crasdant, cyweirdant, a byrdwn y cyweirdant .
Un gwahaniaeth pwysig rhwng y crwth a'r ffidil yw mai pont wastad sydd i'r crwth, ac nid siap bwa fel y ffidil. Golyga hynny fod y pedwar tant yn seinio gyda'i gilydd fel cord wrth dynnu'r bwa drostynt, ac na ellir chwarae'r tannau unigol ar wahân fel y ffidil. Gwahaniaeth arall yw'r modd y caiff y crwth ei ddal – nid o dan yr ên ond yn is i lawr yn erbyn y fron. Fel hyn y byddai'r tannau'n cael eu tiwnio: GG'CC'DD'. Darganfyddodd ymchwil diweddar gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ofod o dan y bysellfwrdd sy'n debyg o fod yn seinflwch, nodwedd nas defyddir mewn offerynnau tant eraill.
Yng Nghymru bu'r crwth yn rhan o'r traddodiad offerynnol am o leiaf fil o flynyddoedd. Caiff yr offeryn ei enwi yng nghyfreithiau Hywel Dda yn y ddegfed ganrif, ac ymddengys ei fod yn boblogaidd yng nghyfnod Gruffydd ap Cynan ddwy ganrif yn ddiweddarach. Bu crythorion yn cystadlu yn Eisteddfod enwog yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi ym 1176, a gwyddom fod 18 o grythorion wedi graddio yn Eisteddfod Caerwys bedair canrif yn ddiweddarach ym 1567.
Ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd yr offeryn bron a marw o'r tir yn gyfangwbl. Mewn darlith i Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain ym 1770, roedd yr hynafiaethydd Daines Barrington wedi dod â chrwth gydag ef. Un person yn unig oedd yn chwarae'r offeryn bellach drwy Gymru gyfan, meddai, sef gwr o'r enw John Morgan o Niwbwrch, Ynys Môn. Ar y pryd roedd hwnnw yn tynnu am ei drigain oed. "The instrument will probably die with him in a few years," meddai.
|
Cass Meurig |
Fel yn hanes y delyn deires, y bygythiad mawr oedd offeryn arall mwy modern - a cherddoriaeth newydd i gydfynd: y ffidil. Roedd y ffidil yn fwy hyblyg, ac efallai yn haws ei chwarae hefyd.
Fe oroesodd pedwar crwth i'n dyddiau ni. Yr hynaf yw 'Crwth y Foelas' o ardal Pentrefoelas, a welir heddiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Fe'i gwnaed yn Llanfihangel Bachellaeth, Gwynedd a cheir y dyddiad 1742 arno. Ceir un arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, un yn y Corporation Museum, Warrington, ac un yn yr Unol Daleithiau, yn y Museum of Fine Arts, Boston.
Fel gyda'r delyn deires, aeth rhai unigolion ati i atgyfodi'r crwth yn ein cyfnod ni – tasg llawer anoddach nag yn achos y delyn oherwydd roedd y traddodiad wedi marw, a phob disgrifiad o dechneg a repertoire wedi diflannu.
Y ddau brif arbenigwr heddiw yw Bob Evans o Gaerdydd a Cass Meurig o Gwm-y-Glo, Caernarfon.
Dyfaliad (sef disgrifiad) Crwth gan Gruffudd ap Dafydd ap Hywel
Prenal teg a Gwregis
Pont a brau, punt yw ei bris
A thalaith ar waith olwyn
A Bwa ar draws byr drwyn
Ac ar ganol mae dolen
A gwar hwn megis gwr hen
Ar ei frest cywir frig
O'r masarn fe geir miwsig,
Chwe ysbigod os codwn
A dyna holl dannau hwn
Chwe thant a gaed o fantais
Ac yn llaw yn gan llais
Tant i bob bys ysbys oedd
A dau dant i'r fawd ydoedd.
English >>>>