Telynor Cymru 2016
Dathlodd Telynor Cymru 2016200 mlwyddiant geni John Roberts 'Telynor Cymru' (1816-1894), un o'r ffigurau pwysicaf yn ein traddodiad gwerin.
John Roberts
Sipsi Cymreig oedd John ac roedd yn enwog yn y 19eg ganrif am chwarae'r Delyn Deires Gymreig.
Trysor y Sipsiwn
Trosglwyddwyd trysor cerddoriaeth delyn y Sipsiwn Cymreig drwy chwe chenhedlaeth o deulu John Roberts i'w or-wyres Eldra Jarman, a thrwyddi hi i Robin Huw Bowen.
Robin Huw Bowen
Pan fu'n ymweld â gwlad Paraguay yn 2013 i chwarae yn Festival Mundial del Arpa en el Paraguay, gwelodd wlad lle mae traddodiad werin ei Hofferyn Genedlaethol yn fywiog iawn. Yng Nghymru, y delyn yw'r unig agwedd ddi-dor o'n traddodiad offeryn-nol gwerin, ac eto, hi yw'r offeryn lleiaf amlwg ar sîn werin Cymru heddiw; anelwn at gywiro hyn drwy'r prosiect.
Cyngor Celfyddydau Cymru
Buom yn llwyddiannus yn ein cais am gefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae'r gwaith nawr wedi'i orffen.

Datbylgwyd safle we yn arbennig ar gyfer y prosiect a bydd ar gael am flynyddoedd i ddod:
www.telynor.cymru;
mae'n cynnwys llwyth o gerddoriaeth a gwersi fideo yn dangos y dechnegau a ddefnyddiwyd gan y sipsiwn.

Gwnaeth ymweliad Womex â Chaerdydd yn 2016 les mawr i godi proffeil canu traddodiadol ac i newid agwedd y sector i werthfawrogi potensial ein traddodiad i gyffroi pobl lawn gymaint ag adrannau eraill y celfyddydau. Mae diffyg hyder ac anwybodaeth yn rhy aml yn amlygu eu hunain ar y sîn Gymreig, ac yn peri i ormod o berfformwyr gredu 'nad iddyn nhw' y mae'r pethau hyn, am ba reswm bynnag. Mae 'na amharodrwydd yn y byd clasurol i dderbyn repertoire ac arddull werin o ddifrif, ac mae'r telynorion gwerin yn aml gydag agwedd rhy amaturaidd ac yn ofni'r her o chwarae repertoire mwy soffistigedig. Ymgais felly oedd y prosiect yma i geisio datblygu hyder yn y repertoire ac yn y gallu i'w berfformio, ac yna, broffesiynoldeb wrth ei gyflwyno, yn union fel y gwelwyd traddodiadau eraill yn gwneud yn ystod Womex, a llwyddod i wneud hyn. Bydd y wefan yn etifeddiaeth barhaol o'r gwaith.
Y Cynllun
Cynhaliom wersi dros Gymru i chwarae ym modd y Sipsi yn ystod 2015, 2016 a 2017 dan arweiniad Robin, i roi'r cyfle i delynorion ddysgu'r grefft. Perfformiwyd cyngherddau'n genedlaethol ar draws Gymru yn 2016 i ddathlu dauganmlwyddiant John Roberts. Dysgodd telynorion ar draws Gymru yn dysgu dull chwarae'r Sipsi, drwy'r glust, i ganu'n halawon traddodiadol ar y delyn.
Mae'n gwefan www.telynor.cymru ar gyfer disgyblion y prosiect, wedi cefnogi ac ategu'r gwersi lleol. Ar y wefan hefyd ceir nodiant alawon, cyngor a gwybodaeth berthnasol ac mae Robin wedi recordio a gosod fideos hyfforddi arni.
English >>>>