Cerfwaith pren o tua 1510 o ffram wely'r uchelwr Syr Rhys ap Thomas
Y delyn yw'r unig offeryn traddodiadol sydd wedi cael ei chwarae'n ddi-dor yng Nghymru hyd heddiw, a'r offeryn y ceir y cyfeiriadau amlaf tuag ati mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyd yr oesoedd.
Telyn fechan oedd yr un gynharaf – telyn benglin. Cyfeirir ati hefyd fel telyn farddol – telyn debyg i'r un oedd yn cael ei chwarae ar hyd a lled Ewrop. Gwelir enghraifft o'r delyn hon mewn cerfwaith o ddechrau'r 15fed ganrif ar ffrâm gwely yr uchelwr Syr Rhys ap Thomas o Ddinefwr. Telynor sy'n rhan o ymgyrch filwrol yw'r cerflun hwn.
Defnyddid blew ceffyl (rhawn) wedi eu plethu ar gyfer gwneud tannau telyn, ond mae lle i gredu hefyd fod tannau metel yn cael eu defnyddio, fel yn Iwerddon. Credir fod y delyn Gymreig yn wahanol i'r un Wyddelig: roedd y llorf (blaen y delyn) yn sythach ac roedd hi'n ysgafnach ei gwneuthuriad. Ar rai telynau byddai pegiau pren bychain yn dal y tannau yn y seinfwrdd ac yn cyffwrdd y tannau gan achosi iddyn nhw chwyrnu. Yr enw ar y pegiau hyn oedd gwarchïod. Y defnyddiau arferol i wneud telyn yng Nghymru oedd pren (ar gyfer y fframwaith a'r gwrachïod), croen anifail (i'w lapio am y seinfwrdd), asgwrn (i wneud yr ebillion tiwnio), a rhawn (i blethu'r tannau). Yn ôl cywyddau'r cyfnod, tua 30 o dannau a geid mewn telyn nodweddiadol. Ar yr ysgwydd chwith y chwaraeid y delyn yng Nghymru bob amser.
Ni wyddom pa fath o gerddoriaeth y byddai'r telynau yn ei chwarae. Llawysgrif Robert ap Huw (tua 1580-1665) yw'r unig awgrym sydd ar gael. Y llawysgrif hon yw'r casgliad hynaf o gerddoriaeth i'r delyn drwy'r byd i gyd.
Tua'r 14eg ganrif fe ddisodlwyd y 'delyn rawn' gan 'delyn ledr' – symudiad pur amhoblogaidd ymhlith y beirdd, fel y gwelir yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym.
Telynor y Waun Oer (Evan Jones) a'r canwr penillion Eos Mawddwy (Robert Evans) tua 1865.
Yn ôl geiriadur Sion Dafydd Rhys, roedd pum gwahanol gywair i gerdd dant: Is-gywair, Cras-gywair, Lleddf-gywair, Go-gywair a Bragod-gywair. Mae llawer o dermau technegol i ddisgrifio symudiadau'r llaw, megis Tagiad y Fawd, Plethiad byr, Plethiad y pedwarbys, ac ati.
Ar hyd y canrifoedd roedd nawdd yn bwysig iawn ym mywydau'r telynorion – fel ym mywyd y beirdd a'r cerddorion eraill. Roedd cyfundrefn arbennig yn bodoli lle byddai beirdd a cherddorion yn cael eu graddio a'u gosod mewn gwahanol ddosbarthiadau er mwyn eu trwyddedu. Y graddau hyn fyddai'n penderfynu faint o arian y gallent ei hawlio ar eu teithiau Clera (perfformio am arian).
Fe chwalodd yr hen gyfundrefn hon ac fe ddirywiodd nawdd yr uchelwyr o gyfnod y Tuduriaid ymlaen. Bu amryw o delynorion yn gwneud eu bywoliaeth yn Llundain, a rhai ohonynt yn delynorion brenhinol. Yng Nghymru, graddol fu'r dirywiad. Ym 1594, mewn dim ond un plasty ym Môn caiff 13 o delynorion eu rhestru dros gyfnod o ddim ond dau fis. Yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, mae prysurdeb y gwneuthurwyr telynau mewn llefydd fel Llanrwst, Llangynog a Chaerdydd (Basset Jones), yn dyst i boblogrwydd y delyn yn y cyfnod hwnnw.
Nansi Richards, Telynores Maldwyn
Y Delyn Deires
Daeth y delyn deires i Brydain yn ystod teyrnasiad Siarl I, tua 1630. Credir fod y delyn deires gynharaf yng Nghymru wedi cael ei chynhyrchu tua diwedd yr 17eg ganrif gan Elis Sion Siamas o Lanfachreth ger Dolgellau.
Mae gan y delyn deires gwmpas o bum 8fed a thua 95 o dannau mewn tair rhes. Caiff y ddwy res allanol ddiatonig eu tiwnio'n unsain; caiff y rhes ganol ei thiwnio i'r nodau cromatig. Tyfodd y delyn deires yn boblogaidd ymhlith telynorion Cymreig yn Llundain. Yn ddiweddarach, tyfodd ei phoblogrwydd gymaint yng Nghymru fel y daeth i gael ei hadnabod fel "Y Delyn Gymreig". Cynhyrchwyd ugeiniau ohonynt yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, a thrwy gydol y 18fed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Credir mai yng Ngogledd Cymru y cydiodd y delyn deires - ar y dechrau, beth bynnag - cyn ymledu i’r De yn ddiweddarach, diolch i gefnogaeth frwd pobl fel Arglwyddes Llanofer, Augusta Hall (1802-1896). Yn ystod y 18fed ganrif roedd pobl fel John Parry, y telynor dall o Rhiwabon, yn cael ei gydnabod yn un o delynorion gorau ei oes, ac yn y ganrif nesaf fe wnaeth Telynor Cymru (John Roberts, Y Drenewydd) – gŵr o dras y sipsiwn – lawer o waith cenhadu ar ei rhan. Roedd y delyn deires yn ddigon ysgafn i delynorion fedru ei chario ar eu cefnau, a golygai hynny ei bod yn ymddangos mewn ffeiriau a thafarnau yn ogystal â phlasdai.
Ond roedd gan y Methodistiaid ragfarn yn erbyn unrhyw offeryn oedd yn gysylltiedig â'r dafarn, ac wrth i'w dylanwad nhw gynyddu fe drodd llawer eu cefnau ar yr hen ddiwylliant gwerinol. Bu ymddangosiad y delyn bedal newydd arwaith ddwbl ('double action') hefyd yn fygythiad i'r hen delyn Gymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mewn anerchiad yn Lerpwl ym 1886, dywedodd John Thomas, Pencerdd Gwalia, mai “creulondeb” oedd glynu wrth yr hen delyn Gymreig:
I have now reluctantly arrived at the conviction that it would be nothing less than downright cruelty to handicap our compatriots by offering any further encouragement for the study of an instrument which would keep them so far behind in the race of progress and distinction.
Y telynorion wrthi yng nghysgod y coed yn Nolgellau
Yn yr ugeinfed ganrif fe ddiorseddwyd y delyn deires bron yn llwyr gan y delyn bedal ac fe symudodd pwyslais y gerddoriaeth o'r traddodiadol i'r clasurol. Ond fe gadwyd y fflam yn fyw gan Nansi Richards, Telynores Maldwyn, a gafodd ei hyfforddi yn y dull traddodiadol gan Delynor Ceiriog ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Er mai llond dwrn yn unig oedd yn dal i chwarae'r delyn deires pan fu hi farw ym 1979, yr oedd wedi dylanwadu ar amryw drwy ei phersonoliaeth frwd a byrlymus, ac wedi trosglwyddo'i chyfrinachau i rai fel Dafydd a Gwyndaf Roberts (Ar Log) a Llio Rhydderch.
Y ddau ffigwr amlycaf yn yr adfywiad diweddar yw Llio Rhydderch a Robin Huw Bowen. Mae'r ddau wedi gosod y delyn deires yn ôl ar ei thraed ei hun yn hytrach nag yng nghysgod y mathau eraill o delynau, gan ddangos fod ei sain a'i thechneg yn unigryw.