Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Clera 2018 am 2.30yh ar brynhawn dydd Sul, Awst 5ed yn Craft in the Bay ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Cynhaliwyd Gorymdaith Gŵyl Dewi eleni fel arfer yng Nghaerdydd gan orffen gyda sesiwn yn Nhafarn y Farchnad yng nghanol y ddinas.
Pasiodd y tywydd gwael ac ar ddydd Sadwrn Mawrth 9fed perfformiodd aelodau Clybiau Alawon De Cymru ddwy waith yn Atriwm Sain Ffagan Amgueddfa Cymru.

Mae Clera yn rhan o Tŷ Gwerin
bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd Eisteddfod Caerdydd y llynnedd, o
ddydd Sadwrn, Awst 4ydd tan ddydd Sadwrn Awst 11eg eleni, ac eleni, byddwn yn Llanrwst am Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy o ddydd Sadwrn Awst 3ydd tan ddydd Sadwrn Awst 10fed.
Bydd gweithdai/sesiynau a pherfformiadau gwerin bob dydd yn ogystal â: chystadleuthau offeryn gwerin a grŵp gwerin yn ystod yr wythnos. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan www.eisteddfod.cymru.
Mae pris gostyngedig i docynnau'r maes hyd at ddiwedd mis Mehefin.
Cliciwch yma i weld Cylchlythyr 2018
Cliciwch yma i weld Cylchlythyr 2017
Cliciwch yma i weld Cylchlythyr 2016
Mae ganddym ddwy erthygl diddorol ar y crwth ar ein gwefan:
Crwth olaf yr hen draddodiad
gan Stephen Jones, Sir Drefaldwyn
Darganfyddiad newydd am hen offeryn
gan Emyr Davies ac Emma Lile, Saint Fagan Amgueddfa Werin Cymru
Ewch at wefan www.sesiwn.com i weld gweithdai a chlybiau alawon,
ac at ein gwefan www.alawoncymru.com am gasgliad o alawon Cymreig.
Y Glerorfa yw Cerddorfa Werin Cymru
Ffurfiwyd y Glerorfa i ddathlu dengmlwyddiant Clera yn 2006.
Bu'r Glerorfa yn flaenllaw fel rhan o dîm Cymru yng Ngwyl pan Geltaidd Lorient yn 2008
ac yn chwarae mewn llawer o gyngherddau ar draws Cymru ers hynny.
Perfformiodd Y Glerorfa gyngerdd yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar nos Sadwrn Ionawr 24ain 2015.
Perfformiom mewn dau gyngerdd ar ddiwedd mis Mehefin yn ein taith haf
2015, un a drefnwyd gan Gyfeillion Ellis Wynne yn Ysgol Ardudwy,
Harlech, a chyngerdd awyr-agored yn Plas Glyn-y-weddw yn Llanbedrog,
ger Pwllheli. Cynhaliom gyngerdd arall ar nos Sadwrn, Hydref 3 yn
Neuadd Ogwen, Bethesda.