Yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ceir tair enghraifft o Bibgorn Cymreig, pob un yn dyddio o'r 18fed ganrif. Ond mae'n offeryn sy'n dyddio'n ôl lawer pellach na hynny.
Offeryn chwyth oedd y pibgorn: rhyw fath o glarinet cyntefig gyda sain tebyg i'r bombarde Llydewig. Os tynnir y pibgorn oddi wrth ei gilydd gwelir fod iddo bedair rhan – y bibell bren gyda chwe thwll yn y blaen ac un yn y cefn, y frwynen sy'n ffitio i ben y bibell, a'r ddau gorn (cyrn buwch) sy'n ffitio wedyn ar y ddau ben. Roedd gan yr offeryn gwmpas o wythfed.
Offeryn i'w chwarae yn yr awyr agored yn bennaf oedd y pibgorn yn ôl pob tebyg. Yn ôl Robert Griffiths, awdur Llyfr Cerdd Dannau, enw arall cyffredin arno oedd pib y bugail, ac mae lle i gredu ei fod yn offeryn poblogaidd ymhlith gweision ffermydd yn arbennig.
Dywedodd Clwydfardd (David Griffith) fod ei dad wedi dweud wrtho "that playing the Pibgorn was a common thing in those days (sef diwedd y 18fed ganrif) in the South and that farmers' servant men were in the habit of carrying them with them when driving cattle to the fairs." Ond gellir tybio fod y pibgorn wedi cael ei ddefnyddio'n bur helaeth ar gyfer dawnsio hefyd – mae modd chwarae alawon cyflym arno ac mae ei sain treiddgar yn rhinwedd amlwg yn yr awyr agored.
Gwyddom fod yr offeryn yn arbennig o boblogaidd ar Ynys Môn. Mewn llythyr at ei frawd ym 1759, meddai William Morris, un o Forysiaid Môn:
Difyr oedd gweled llanciau cadw â'u pibau cyrn dan eu ceseiliau....yn hel gwarthegau tan chwibanu 'Mwynen Mai' a 'Meillionnen'.
Yn ardal Dulas yr oedd hyn, ac aiff ymlaen i nodi mai Meillionnen oedd un o hoff alawon y gweision ffermydd. Yn ôl yr hynafiaethydd Daines Barrington ym 1770, dim ond ym Môn yr oedd yr offeryn yn dal i gael ei chwarae erbyn hynny. Mae Edward Jones, Bardd y Brenin, hefyd yn cadarnhau yr un peth ym 1794 ( enw arall oedd ganddo ef ar yr offeryn oedd cornicyll).
Yn ôl Barrington, byddai perchennog fferm o'r enw Mr Wynn, Penhesgedd, yn cynnig gwobr flynyddol i'r perfformiwr gorau. Dywedir fod un gystadleuaeth felly yn y 18fed ganrif wedi denu 200 o chwaraewyr! Mae disgrifiad ar gael hefyd gan Siôn Wiliam Prichard (1749-1829) o ddathliadau Nadolig ar fferm Castellior (rhwng Porthaethwy a Phentraeth) lle byddai'r pibgorn ac offerynnau eraill yn cael eu chwarae.
Ymddengys mai'r sipsiwn Cymreig oedd y rhai olaf i chwarae'r pibgorn. Yn ei llyfr Cwpwrdd Nansi mae Nansi Richards yn adrodd hanes neithior (parti priodas) yn Llanyblodwel lle'r oedd y sipsiwn yn chwarae pibgyrn, tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ei thaid, Edward Richards, yn bresennol y noson drychinebus honno. Roedd wedi mynd i'r llofft i gysgu ar ôl oriau o rialtwch, ond cafodd ei ddeffro yn yr oriau mân gan sŵn pibgyrn y sipsiwn yn gegin oddi tano. Cododd o'i wely a dechrau dawnsio, ond syrthiodd i lawr y grisiau a bu farw yn y fan a'r lle.
Fel gyda’r hen offerynnau eraill, fe wnaed ymdrech arbennig ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif i roi bywyd newydd i’r pibgorn. Mae dau neu dri o wneuthurwyr yn eu cynhyrchu, ac o ganlyniad mae’r nifer sy’n eu chwarae yn cynyddu’n gyson.
Dywed y rhai sy'n chwarae pibgorn nad yw'r byseddu yn anodd i unrhyw un sy'n gyfarwydd â chwibanogl neu hyd yn oed recorder, ond mai'r broblem fwyaf yw eu bod yn offerynnau oriog braidd. Mae angen eu 'cynhesu' ymlaen llaw i sicrhau tonyddiaeth, yn enwedig os ydynt yn ymddangos gydag offerynnau eraill. Maent yn offerynnau arbennig o effeithiol mewn sesiynau neu fandiau er mwyn 'codi'r' alawon a rhoi hwb ychwanegol iddynt.
English >>>>